
Dyddiaduron yr Oen
Wedi’i gyflwyno i chi gan


Gyda’n gilydd, byddwn yn dysgu:
- Sut mae gofalu am ddefaid yn ystod gwahanol gyfnodau o’u bywydau
- Sut mae y Bencampwraig trafod cŵn defaid, Erin, a’i chi, Theo, yn casglu’r defaid
- Sut a pham mae ffermwyr yn cneifio defaid
- Sut mae defaid yn gweddu’n berffaith i fyw ym mynyddoedd Cymru
- Sut y digwyddodd digwyddiad prin iawn ar fferm Erin eleni…
Bydd gan eich disgyblion seddi rheng flaen i wylio dyddiaduron wyna Erin, ei helpu i gasglu’r defaid a gweld cneifio byw!
Mae’r wers hon wedi’i chynllunio ar gyfer cyfnod allweddol 2/ cam cynnydd 3
Dyddiad: Dydd Mercher 21 Mehefin
Amser: 2:00yh – 2:45yh (gan gynnwys sesiwn holi ac ateb 10 munud)
Amcanion dysgu:
Archwilio perthnasoedd rhwng pethau byw, eu cynefinoedd a’u cylchoedd bywyd.
Disgrifio nodweddion organebau ac adnabod sut maent yn caniatáu iddynt fyw, tyfu a goroesi yn eu hamgylchedd.
Cyn y wers:
Llawrlwythwch y gweithgareddau ymchwilio i archwilio priodweddau gwlân.
Paratowch eich myfyrwyr i gymryd rhan yn y wers fyw trwy ofyn iddynt feddwl am gwestiynau yr hoffent eu gofyn i’n siaradwyr arbenigol. Gallwch hyd yn oed eu recordio a’u cyflwyno gan ddefnyddio’r botwm ‘Cwestiwn Seren’ ar frig y dudalen.
Peidiwch â phoeni, bydd llawer mwy o gyfleoedd i gyflwyno cwestiynau yn ystod y wers hefyd.
Yn ystod y wers:
Llawrlwythwch a chwblhewch ein llwybr gwybodaeth. Peidiwch ag anghofio y gallwch chi ryngweithio â’r wers, ateb yr holl gwestiynau rydyn ni’n eu gofyn i chi a chyflwyno’ch cwestiynau eich hun i’n harbenigwyr trwy ddefnyddio’r blwch Slido ar frig y dudalen.
Ar ôl y wers:
Llawrlwythwch a chwblhewch y gweithgaredd cymharu cylchoedd bywyd i ymestyn y dysgu o’r wers.
Peidiwch ag anghofio rhannu eich lluniau gyda ni. Tagiwch @NFUEducation ac @NFUCymru/@NFUCymru_Wales ar Twitter ac Instagram!
Lawrlwythwch y gweithgareddau dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg hyn i’w cwblhau cyn, yn ystod ac ar ôl y wers.
Mae mynd am dro i fferm neu gael eich magu ar fferm yn brofiad bendigedig. Rydyn ni’n dysgu am wyddoniaeth, anifeiliaid, o ble mae bwyd yn dod a cymaint mwy. Ond mae’n bwysig iawn cofio bod fferm yn weithle ac yn gallu bod yn beryglus. Mae’n rhaid cadw plant i ffwrdd o weithle’r fferm oni bai eu bod yn cael eu goruchwylio’n llawn gan oedolyn sydd ddim yn gweithio o gwbl.
Cysylltiadau â Chwricwlwm i Gymru:
Maes dysgu a phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn o bethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
Cam Cynnydd 2: Rwy’n gallu archwilio’r berthynas rhwng pethau byw, eu cynefinoedd a’u cylchoedd bywyd.
Cam cynnydd 3: Rwy’n gallu disgrifio nodweddion organebau ac adnabod sut mae’r nodweddion hyn yn galluogi’r organebau i fyw, tyfu ac atgenhedlu er mwyn gallu goroesi yn eu hamglychedd.
Gofynnwch gwestiwn SEREN!
Gall eich disgyblion chi fod yn y wers, dim ond i chi eu recordio yn gofyn cwestiwn (recordiadau ffôn neu iPad) a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r manylion isod, am gyfle i gael ateb BYW gan arbenigwr!
Gallwch lanlwytho’ch fideos unai i Facebook, Instagram neu Twitter. Gwnewch yn siwr eich bod yn tagio @NFUEducation ac @NFUCymru/@NFUCymru_Wales a defnyddio’r hashnod #dyddiauronyroen
@NFUEducation @NFUCymru @NFUCymru_Wales
#dyddiauronyroen
Dewch i gwrdd â’r Sêr!
Erin McNaught
Pencampwr Trafod Cŵn Defaid
Sioned Davies
Ffermwr Defaid o Gymru
Rhodri Jones
Cneifiwr
Chi
Plant yn cymeryd rhan o bedwar ban byd!
Rhannwch eich lluniau gyda ni yn ystod y wers gan ddefnyddio’r hashnod
#dyddiaduronyroen
Cyfieithiad adnoddau addysgu wedi’i noddi gan:

